
Enwir y pum ystafell wely ar ôl afonydd lleol.
Mae i bob un o’r ystafelloedd gwely awyrgylch ffres a chyfoes ac maent wedi’u dylunio gyda llinellau clir a glân. Mae’r gwelyau wedi’u gorchuddio â dillad gwely moethus o gotwm Eifftaidd ac ym mhob ystafell ceir:
Yn 3 Pen Cei ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid




Dyma’r brif ystafell wely, sydd â golygfeydd arbennig dros yr harbwr, gwely lledr ‘superking’ moethus ac ‘en-suite’ mawr â baddon dwfn hirgrwn, cawod law a dodrefn gwledig.
£135 y noson
Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf ym mlaen y llety.
2 and 3 night deals available: View Specials




Ystafell wely ddwbl ragorol, sydd â golygfeydd dros yr harbwr, ‘en-suite’ â chawod law, gwely lledr ‘superking’ moethus a dodrefn gwledig.
£125 y noson
Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf ym mlaen y llety.
2 and 3 night deals available: View Specials




Ystafell fawr sydd â phâr o welyau sengl o dan nenfwd o drawstiau pren a chyda ffenestr fechan drawiadol a dodrefn cyfforddus gan gynnwys soffa ledr. Mae gan yr ystafell ‘en-suite’ â chawod law.
£95 y noson
Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf yng nghefn y llety.
2 and 3 night deals available: View Specials




Ystafell wely ddwbl fodern â nenfwd ar ogwydd sydd yn creu siâp diddorol a nodweddiadol.
Mae gan yr ystafell ddodrefn derw, gwely ‘kingsize’ a soffa ledr, ‘en-suite’ â chawod law a golygfeydd tua gogledd Ceredigion o’r ffenest yn y to.
£95 y noson
Wedi’i lleoli ar yr ail lawr yng nghefn y llety.
2 and 3 night deals available: View Specials




Ystafell wely ddwbl wedi’i haddurno mewn arddull fodern, sy’n cynnwys gwely ‘kingsize’ derw â phen-gwely lledr, dodrefn derw a soffa ledr, en-suite â chawod law a golygfeydd tua’r gogledd
£95 y noson
Wedi’i lleoli ar yr ail lawr yng nghefn y llety.
2 and 3 night deals available: View Specials