English

YMLACIWCH AR Y CEI
"Croeso cynnes i 3 Pen Cei, llety wedi’i leoli ar lan harbwr Aberaeron, tref hardd, Sioraidd llawn tai amryliw ar arfordir canolbarth Cymru."

Mae Aberaeron yn llecyn arbennig i ymweld ag ef ac yn encil delfrydol lle gellir ymlacio’n llwyr. Mae’r dref yn agos at draethau ac arfordir gogoneddus Ceredigion yn ogystal â chymoedd, afonydd, coedwigoedd a mynyddoedd bendigedig.

Gwesty “Boutique” yw 3 Pen Cei, yn darparu llety clyd ar lan harbwr hanesyddol Aberaeron ac arfordir prydferth Bae Ceredigion.

Mae nifer o fwytai arbennig yng Ngheredigion yn darparu bwyd o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion lleol ac mae 3 Pen Cei wedi’i leoli y drws nesaf i Westy’r Harbwr sydd wedi ennill nifer o wobrau a chanmoliaeth eang am fwyd ffein a bwydlen ddiddorol.

Bydd croeso cynnes Cymreig yn eich aros yn 3 Pen Cei a byddwn yn hapus i’ch cynghori yngl?n â’r dewis eang o weithgareddau sydd ar gael yma, megis teithiau cerdded a beicio, a sôn am brif fannau pysgota gwialen a physgota môr yr ardal ac unrhyw weithgareddau eraill sydd yn apelio atoch.

Enwir yr ystafelloedd ar ôl prif afonydd Ceredigion ac maent wedi’u haddurno mewn dull eclectig sydd yn gyfuniad o’r modern a’r traddodiadol.

Mae 3 Pen Cei wedi’i leoli ond 30 munud mewn car o dref prifysgol Aberystwyth, lleoliad delfrydol i ymlacio am wyliau hir neu fyr, ac yn ganolfan wych i grwydro ac i ddarganfod ysblander arfordir a mynyddoedd canolbarth Cymru.

Yn 3 Pen Cei ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid

CYNIGION ARBENNIG

No promotions available

Unfortunately we have no promotions available at this time.

MANYLION PELLACH
TANYSGRIFIWCH

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr a’n cynigion arbennig drwy e-bost.

TANYSGRIFIWCH

Awards

Wales Cymru - Gold Award 2010

3 Pen Cei Guest House has received a Visit Wales Gold Award.

Gold Award

Wales Cymru - 5 Stars

3 Pen Cei Guest House in Aberaeron has received a 5 star grading.

Visit Wales

Newyddion Diweddaraf