English

Ciniawa

"Nothing would be more tiresome than eating and drinking if God had not made them a pleasure as well as a necessity."

Dewch i lenwi eich bol a mwynhewch flasau arbennig cynnyrch lleol ym mwytai’r ardal.

 

BWYTY GWESTY’R HARBWR

Darperir prydau blasus a diddorol sy’n defnyddio’r cynnyrch lleol gorau yn ei dymor, ganol dydd a chyda’r nos. Mae yna hefyd fwydlen bar fwy syml ar gael.

Gwobrau ac Anrhydeddau:
  • Gwobrau Blas Cymru 2002, 2003
  • Gwobr Aur am Fwyta Allan yng Nghymru 2005
  • Wedi ei gynnwys yn y Good Food Guide 2004, 2005, 2006, 2007, 2008

Ymwelwch â: Gwesty’r Harbwr

BWYTY NEUADD YNYSHIR

Mae’r bwyty yn Ynyshir yn llecyn clyd wedi’i addurno â phaentiadau dramatig Rob Reen. Mae’r bwyty’n gyfle i’r pen-cogydd ddangos ei ddoniau, ac mae ei brydau’n aml yn destun sgwrs rhwng gwesteion dros bryd gyda’r nos neu dros fyrbryd yn y bar amser cinio.

Ymwelwch â: Bwyty Neuadd Ynyshir

BWYTY TŶ MAWR

Mae ansawdd ac amrywiaeth y cynnyrch lleol yn un o brif gryfderau’r ardal. Mae dros 95% o’r cynhwysion a ddefnyddir yng nghegin Tŷ Mawr wedi’u tyfu o fewn 10 milltir i’r plasty ac mae nifer o’r cynhwysion wedi’u tyfu yng ngerddi’r gegin.

O dan lygaid craff y pen-cogydd a’i dîm, defnyddir cynnyrch lleol i greu prydau cywrain i’w mwynhau yn y bwyty sydd wedi ennill amryw o wobrau.

Gwobrau ac Anrhydeddau:
  • 2 Rhosglwm yr AA.

Ymwelwch â: Bwyty Tŷ Mawr

GWESTY PLAS MORFA

Bwyty moethus à la carte wedi’i leoli ar lawr gwaelod y gwesty hwn sydd â golygfeydd panoramig unigryw o arfordir Bae Ceredigion tua’r de a’r gorllewin, golygfa sy’n newid o dymor i dymor ac sy’n cynnig cyfle i fwynhau’r machlud haul.

Ymwelwch â: Gwesty Plas Morfa

HIVE ON THE QUAY

Bwyty sydd wedi’i leoli yn harbwr Aberaeron ac sy’n arbenigo mewn bwyd môr, bwyd organig a hufen iâ mêl adnabyddus.

Enillydd Gwobr Café y Flwyddyn Les Routiers 2004/5.

Ymwelwch â: Hive on the Quay

Croeso Cymru

Wales Cymru - 5 Stars

Mae Gwesty Bach 3 Pen Cei yn Aberaeron wedi ei raddio'n 5 seren.


Croeso Cymru

Newyddion Diweddaraf