Argaeledd a Chynigion Tanysgrifiwch i’n negeseuon ebost rhestr gwesteion

Darganfod Aberaeron


Gweithgareddau

“ Nid mewn darganfod tirwedd y ceir taith o ddarganfod, ond mewn cael llygaid newydd.”

Marcel Proust

Y lleoliad delfrydol ar gyfer darganfod cyfoeth o weithgareddau, yn cynnwys cerdded, seiclo, pysgota, golff, marchogaeth a chymaint mwy.

Cerdded

Mae canolbarth Cymru’n disgwyl amdanoch. Dim torfeydd, dim problemau, dim pwysau. Dyma galon Cymru, lle mae’r golygfeydd yn ysblennydd, y ffyrdd yn dawel a’r trefi bach deniadol yn eich croesawu â breichiau agored.

Seiclo

Fel y gellir disgwyl o adnabod arfordir Ceredigion, mae llwybrau beicio Aberaeron a Chei Newydd yn fryniog, ond os yw’n ymdrech mynd i fyny, mae’n hwyl dod i lawr yn ôl!

Llogir beiciau yn Cyclemart Cilcennin:

Goffio

I olffwyr, mae Cymru’n daith o ddarganfod. Dyma dirwedd berffaith ar gyfer y gêm, fel pe bai grymoedd natur wedi cynllunio’r cyfan.

Pysgota

Mae llynnoedd, afonydd a môr canolbarth Cymru’n cynnig cyfleoedd ar gyfer pob math o bysgota.

Chwaraeon Dŵr

Gallwch ddewis hwylio dingi, cychod modur, hwylfyrddio a chaiacio gyda dewis o sesiynau byr a chyrsiau ar gael i bob gallu: os ydych chi’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf; eisiau gwella eich sgiliau / cymwysterau; am gryfhau eich tîm; eisiau cael ychydig o hwyl ar wyliau penwythnos neu gyfnod hirach.