
Mae Canolbarth Cymru yn lle braf ag iddo fynyddoedd trawiadol, arfordir syfrdanol a chefn gwlad dilychwin.”
Mae’n lleoliad delfrydol i ddarganfod llu o weithgareddau megis cerdded, beicio, golff, marchogaeth a mwy.
Rydym wedi nodi isod enghreifftiau o ambell weithgaredd sydd ar gael yn yr ardal a rhai digwyddiadau lleol.
Cynhelir Gŵyl Bwyd Môr yn flynyddol ar y Cei, gyda stondinau lliwgar ar hyd a lled yr harbwr. Coginir pysgod a bwyd môr o’ch blaen gan arbenigwyr, ceir celf ar y traeth, yn ogystal â bandiau pres, barbeciw macrell a cherddoriaeth jazz, cystadlaethau dal crancod a rasio gwichiaid. Ceir cerddoriaeth fyw gyda’r nos ar ben y cei!
Dyddiad: 4ed Gorffennaf 2010
Mae Lôn Cambria’n croesi Canolbarth Cymru rhwng Aberystwyth a’r Amwythig. Mae’r llwybr beicio’n 113 milltir o daith ar hyd lonydd cefn gwlad, dyffrynnoedd, llwybrau a heolydd mynyddig gan gynnwys golygfeydd panoramig o gefn gwlad Cymru.
Dyddiad: 8 Awst 2010
Gŵyl sy’n anrhydeddu’r macrell ac sy’n cydnabod ei bwysigrwydd i fywyd y dref. Yn ôl rhai, dyma garnifal gorau Cymru, gyda digonedd o jazz gan Fand Jazz Adamant.
Dyddiad: 30 Awst 2010
Mae Lôn Cambria’n croesi Canolbarth Cymru rhwng Aberystwyth a’r Amwythig. Mae’r llwybr beicio’n 113 milltir o daith ar hyd lonydd cefn gwlad, dyffrynnoedd, llwybrau a heolydd mynyddig gan gynnwys golygfeydd panoramig o gefn gwlad Cymru.
Gellir prynu mapiau o: Sustransshop
Un o lyfrgelloedd gorau’r byd, mae ganddi gasgliad enfawr o waith am Gymru a’r gwledydd Celtaidd eraill yn ogystal â miloedd o lawysgrifau ac archifau, lluniau a ffotograffau, mapiau, recordiadau sain a delweddau symudol (mae’r holl adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim i bobl dros 16).
Ymwelwch â: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ystad Gymreig o’r 18 ganrif
Ymwelwch â: Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Clwb Golff Aberdyfi
Clwb Golff Aberystwyth
Clwb Golff Borth & Ynyslas
Clwb Golff a Gwledig Penrhos