English

The access statement

Mae’n bosib parcio ceir o flaen yr adeilad ond mae hwn yn fan parcio cyhoeddus ac mae’r Cei yn ardal boblogaidd o’r dref, felly ni allwn sicrhau lle parcio.

Mae’r adeilad ar dir gwastad ac mae’n rhannu’r ffordd darmac o’i flaen gydag eiddo cyfagos. Mae’r ffordd darmac yn cael ei defnyddio fel ardal barcio anffurfiol gan y cyhoedd ac mae’r ffordd hefyd yn cael ei defnyddio gan gerddwyr. Y tu draw i’r wal atal llifogydd mae ymyl concrid yr harbwr sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr. Mae grisiau rhwng y ffordd ac ymyl yr harbwr.

Mae palmant concrid sydd ychydig yn uwch na’r ffordd o flaen prif ffryntiad yr adeilad. Mae lled y prif ddrws yn 800mm a lled drws y ports mewnol yn 880mm ac mae mymryn o riniog o flaen y ddau. Nid oes ystafelloedd gwely ar y llawr isaf.

Mae’r holl ystafelloedd gwely ar y llawr cyntaf neu’r ail lawr. Mae un ar ddeg o risiau’n arwain i fyny i’r llawr cyntaf at landin bach gyda dau neu dri gris, ac mae deg o risiau ychwanegol yn arwain i fyny i’r ail lawr. Nid oes lifft ar gael.

Mae 5 o ystafelloedd gwely ar y ddau lawr uchaf. Ym mhob un mae:

Yn ychwanegol:

Croeso Cymru

Wales Cymru - 5 Stars

Mae Gwesty Bach 3 Pen Cei yn Aberaeron wedi ei raddio'n 5 seren.


Croeso Cymru

Newyddion Diweddaraf